Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Ionawr 2021
Amser:
14.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11091
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Huw Irranca-Davies AS Laura Anne Jones AS Dai Lloyd AS David J Rowlands AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd Sophie Brighouse, Llywodraeth Cymru Ed Sherriff, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Nia Moss (Ymchwilydd) Rhun Davies (Ymchwilydd) Lucy Valsamidis (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.
2 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
2.1 Atebodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd gwestiynau gan yr Aelodau.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor Swyddfa Weithredol y Prif Weinidog a dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon ynghylch pwyllgorau’n craffu ar fframweithiau cyffredin - 16 Rhagfyr 2020
3.1.1 Nodwyd y papur.
3.2 Papur i’w nodi 2: Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch y Fframwaith drafft ar Sylweddau Peryglus - 18 Rhagfyr 2020
3.2.1 Nodwyd y papur.
3.3 Papur i'w nodi 3: Gohebiaeth gan Gynullydd y Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon at y Cadeirydd ynghylch Fframwaith Cyffredin Dros Dro y DU ar Labelu cysylltiedig â Maeth, Cyfansoddiad a Safonau - 22 Rhagfyr 2020
3.3.1 Nodwyd y papur.
3.4 Papur i'w nodi 4: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) - 6 Ionawr 2021
3.4.1 Nodwyd y papur.
3.5 Papur i'w nodi 5: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach - 7 Ionawr 2021
3.5.1 Nodwyd y papur.
3.6 Papur i'w nodi 6: Cytundebau Rhyngwladol, Fframweithiau Cyffredin a Datganoli - papur gan yr Athro Michael Keating a Lindsey Garner-Knapp
3.6.1 Nodwyd y papur.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Trafod y dogfennau cryno ar y Fframweithiau Cyffredin a ddaeth i law
6.1 Trafododd yr Aelodau y dogfennau cryno a ddaeth i law, a’u nodi.
7 Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - y goblygiadau i Gymru: cynnig ar gyfer gwaith dilynol
7.1 Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.